Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Hybrid
Dyddiad: Dydd Llun, 25 Medi 2023
Amser:
14.03 -
15.27
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13482
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Joel James AS Peredur Owen Griffiths AS Buffy Williams AS |
Tystion: |
Mark Harris, Home Builders Federation |
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
2 Sesiwn dystiolaeth - P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Harris, Cynghorydd cynllunio a pholisi ar gyfer y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi yng Nghymru
3 Deisebau newydd
3.1 P-06-1341 Canllawiau hygyrch ar gyfer rhieni ac ysgolion er mwyn helpu'r broses o ddatblygu cynlluniau i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrthi’n cynnal ymchwiliad manwl i fynediad cyfartal at addysg a gofal plant.
Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ofyn a fyddent yn ystyried cael tystiolaeth gan y deisebydd fel rhan o’u hymchwiliad manwl.
3.2 P-06-1353 Datganoli cyfrifoldebau a chyllidebau ar gyfer cefnffyrdd yng ngogledd Cymru i ogledd Cymru
Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'r deisebydd yn un o'i etholwyr.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog i ofyn am ymateb i rai o’r cwestiynau a godwyd gan y deisebydd na roddwyd sylw iddynt eto.
3.3 P-06-1357 Llunio Cynllun Gweithredu Microblastigau newydd i Gymru?
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog i ofyn a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithio gyda sefydliadau ac arbenigwyr perthnasol i lunio Cynllun Gweithredu Microblastigau fel y disgrifiwyd gan y deisebwyr.
3.4 P-06-1358 Adolygu'r cyllid annigonol ar gyfer ysgolion yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i’w chyfeirio at sesiwn breifat y cyfarfod a’i thrafod ochr yn ochr â blaenraglen waith y Pwyllgor.
Cytunwyd yn ddiweddarach y byddai'r ddeiseb yn cael ei thrafod eto yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 9 Hydref er mwyn i'r Aelodau archwilio opsiynau pellach a'r ffordd orau o fwrw ymlaen â'r ddeiseb.
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
4.1 P-06-1209 Dylid creu rhestr o bob gofalwr di-dâl yng Nghymru
Datganodd Rhys ab Owen AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae wedi cwrdd â'r deisebydd ar sawl achlysur.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Gweinidog am ddiweddariad terfynol yn dilyn Bwrdd Cynghori’r Gweinidog ar 25 Medi.
4.2 P-06-1262 Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i benderfyniadau a wnaed ganddi cyn ac yn ystod y pandemig
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor nes y bydd blaenraglen waith y Pwyllgor Diben Arbennig Covid ar gael.
4.3 P-06-1288 Byddai agor Gorsaf Gerdded ym Magwyr a Gwndy, sy'n rhan o Raglen Gyflenwi yr Arglwydd Burns, yn llwyddiant cyflym
Datganodd Peredur Owen Griffiths AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae wedi cyfarfod â'r deisebydd ac wedi bod yn rhan o drafodaethau trawsbleidiol.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor nes y bydd canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus ar gael.
4.4 P-06-1348 Comisiynu gwasanaethau GIG addas yng Nghymru ar gyfer pobl â Syndrom Ehlers-Danlos (EDS) neu anhwylderau sbectrwm hypersymudedd.
Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae ganddo aelodau o'r teulu sy'n dioddef o'r cyflwr.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu eto at y Gweinidog i dynnu sylw at y pryderon a godwyd bod rhiwmatolegwyr yn gwrthod gweld cleifion EDS neu anhwylderau sbectrwm hypersymudedd, gan bwysleisio'r angen i fynd i'r afael â hyn gyda Byrddau Iechyd Lleol.
5 Papur i’w nodi - P-06-1344 Dylid defnyddio tir amaethyddol o ansawdd cymedrol (gradd 3b) ar gyfer diogeledd bwyd ac nid ar gyfer ffermydd solar
Nodwyd y papur.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
7 Trafod y dystiolaeth - P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.